Sammy-Jo Davies, fu farw yn y gwrthdrawiad
Mae gyrrwr a oedd wedi achosi marwolaeth merch 19 oed, wedi cael ei garcharu am saith mlynedd.

Roedd Kyle Perkins, 25, o Gwmaman, Rhondda Cynon Taf wedi  gwasgu saith o’i ffrindiau mewn fan a oedd wedi ei ddwyn, cyn bod mewn gwrthdrawiad ym Mryn Teras, Aberdâr ar 3 Awst 2015.

Bu farw Sammy-Jo Davies, 19, a chafodd chwech o bobl eraill eu hanafu’n ddifrifol.

Roedd Perkins eisoes wedi pledio’n euog i dri chyhuddiad yn Llys y Goron Merthyr Tudful, gan gynnwys achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus.

Dywedodd y Barnwr Richard Twomlow na fyddai unrhyw ddedfryd yn gwneud iawn am y galar a achoswyd i deulu a ffrindiau Sammy-Jo Davies.