Yn dilyn newidiadau i gynllun sy’n hybu defnydd y Gymraeg ymhlith teuluoedd, mae Cymdeithas yr Iaith wedi lansio deiseb i wrthdroi’r toriadau yn y ddarpariaeth.

Mae’r mudiad iaith yn gwrthwynebu penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddod â chynllun ‘Twf’ i ben, gan gyflwyno ‘Cymraeg i Blant’ yn ei le, sydd bellach yn cael ei reoli gan y Mudiad Meithrin.

Mae golwg360 ar ddeall bod y llywodraeth wedi torri cyllid y cynllun newydd o £700,000 i £500,000 y flwyddyn, gyda sawl un o swyddogion maes Twf wedi colli eu swyddi.

‘Blaenoriaethu’ ardaloedd lle mae’r Gymraeg ar ei gwannaf yw’r rheswm am hyn, yn ôl y llywodraeth.

Ond mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu’r cam ac wedi galw am adfer swyddi sydd wedi’u colli yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Ddinbych, Sir Y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn, Sir Fynwy, Torfaen a Wrecsam.

Mae’r ddeiseb wedi’i hanelu at Lywodraeth nesaf Cymru a fydd yn cael ei ffurfio ar ôl etholiadau’r Cynulliad ar 5 Mai.

‘Camgymeriad difrifol’

Yn ôl y mudiad, mae sicrhau bod yr iaith yn cael ei throsglwyddo o fewn teuluoedd yn “allweddol” i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg, sef un o brif ymgyrchoedd y Gymdeithas eleni.

“Bu’r prosiect Twf yn rhan bwysig iawn o’r ymdrech i wella defnydd o’r Gymraeg rhwng rhieni a phlant, ac mae’n destun pryder na fydd unrhyw brosiect yn rhedeg mewn nifer fawr o siroedd,” meddai Toni Schiavone, cadeirydd grŵp addysg y mudiad.

“ Rydym yn annog cefnogwyr y Gymraeg i arwyddo’r ddeiseb er mwyn sicrhau bod y Llywodraeth newydd a fydd gyda ni ar ôl mis Mai yn gwrth-droi’r toriadau hyn.”

Ychwanegodd: “Buddsoddi rhagor yn y Gymraeg oedd un o brif negeseuon a ddaeth o’r gynhadledd fawr drefnodd y Llywodraeth yn sgil canlyniadau argyfyngus y Cyfrifiad.

“Yn lle hynny, rydyn ni wedi gweld llawer llai o arian yn cael ei fuddsoddi yn y Gymraeg. Mae torri prosiect sy’n cynnig cymorth i blant bach a’u rhieni yn gamgymeriad difrifol.”

Trosglwyddo iaith yn ‘flaenoriaeth’

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ar y pryd: “Mae trosglwyddo iaith o fewn y teulu yn parhau yn un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.

“Bydd rhaglen Cymraeg i Blant yn gweithredu ar lefel genedlaethol o ran hyrwyddo negeseuon am drosglwyddo iaith, a byddwn yn cydweithio â nifer o bartneriaid i sicrhau hyn.

“O ran y gweithredu dwys, mae nifer o ffynonellau data, gan gynnwys rhagolygon niferoedd plant a holiaduron rhieni wedi cael eu defnyddio er mwyn llywio’r broses o ddethol yr ardaloedd. Bydd yr ardaloedd sy’n cael eu blaenoriaethu gan y rhaglen yn cael eu hadolygu drwy gydol y prosiect er mwyn sicrhau bod cynifer o deuluoedd â phosib yn cael cefnogaeth.”