Cofeb Hiroshima yn Japan
Mae Ysgrifennydd Gwladol America, John Kerry, wedi ymweld â chofeb Hiroshima er mwyn cyflwyno neges o heddwch a gobaith, saith degawd ers i’r Unol Daleithiau ollwng bom atomig gan ladd 140,000 o bobl yn Japan.

John Kerry yw’r uwch-swyddog mwyaf blaenllaw o America i deithio i’r ddinas, gan ymweld â’r amgueddfa heddwch gyda gweinidogion tramor eraill o wledydd yr G7, a gosod torch o flodau ger y gofeb.

Roedd tua 800 o bobl Japan wedi croesawu’r gweinidogion gan chwifio baneri gwledydd yr G7, gan gynnwys yr Unol Daleithiau.

Mae arweinwyr America wedi osgoi’r ddinas yn y gorffennol oherwydd y sensitifrwydd gwleidyddol ac nid oes un  o arlywyddion yr Unol Daleithiau wedi ymweld â’r safle. Fe gymerodd 65 mlynedd i lysgennad yr Unol Daleithiau fynychu gwasanaeth coffa blynyddol Hiroshima.

‘Creithiau’

Mae nifer o Americanwyr yn credu bod cyfiawnhad dros ollwng y bomiau atomig yno ar 6 Awst 1945 ac ar ddinas Nagasaki dridiau’n ddiweddarach, gan ddweud ei fod wedi dod a diwedd i’r Ail Ryfel Byd yn gynt.

Serch hynny, mae grwpiau sy’n cynrychioli goroeswyr yn Japan wedi ymgyrchu ers degawdau i ddod ag arweinwyr o’r Unol Daleithiau a gwledydd eraill sydd ag arfau niwclear, i weld creithiau Hiroshima fel rhan o’u hymdrech i gael gwared ag arfau niwclear.

Mae’n bosib y bydd Arlywydd America Barack Obama yn teithio i Hiroshima fis nesaf.