Avril Whitfield (llun: Heddlu Gogledd Cymru)
Dywed Heddlu’r Gogledd eu bod yn fwyfwy pryderus am ddynes sydd ar goll o’i chartref yng Nghaernarfon ers dydd Gwener 1 Ebrill.

Caiff Avril Whitfield, 57 oed, ei disgrifio fel dynes wyn, rhwng 5’5” a 5’6” a chanddi wallt coch.

Mae’r posteri wedi eu dosbarthu yn ardal Caernarfon mewn ymgais i geisio dod o hyd iddi.

Mae ymholiadau’r Heddlu wedi datgelu y gallai Avril Whitfield fod wedi cael ei gweld ger cylchfan Tesco ar yr A487 ger Caernarfon am 9am ar 1 Ebrill. Roedd hi’n gwisgo cot ddu, hyd tri chwarter gyda’r hwd i fyny.

Meddai’r Prif Arolygydd Richie Green: “Rydym yn yn annog unrhyw un sy’n gwybod lle mae hi i gysylltu â ni ar unwaith.

“Rydym hefyd yn apelio ar Avril ei hun i gysylltu â ni er mwyn rhoi gwybod i ni ei bod hi’n ddiogel.”

Mae ymholiadau’r Heddlu yn parhau a gofynnir i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru drwy ffonio 101 a dyfynnu cyfeirnod 15235.