Amgueddfa Cymru (Ham - CCA2.0)
Bydd amgueddfeydd ledled Cymru yn cael eu taro gan streiciau dros y penwythnosau nesa yn sgil anghydfod hir dros gyflog.

Bydd aelodau o undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol yn llwyfannu cyfres o streiciau mewn protest yn erbyn cynlluniau i gael gwared ar yr arian ychwanegol sydd ar gael am weithio ar benwythnosau.

Bydd y streiciau yn effeithio ar Amgueddfeydd Cymru gan gynnwys Pwll Mawr, Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru, yr Amgueddfa Genedlaethol ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe dros y pedair penwythnos nesaf.

Mae’r anghydfod wedi parhau am ddwy flynedd, ond dyw trafodaethau di-ri ddim wedi gallu  cyrraedd cytundeb.

Mae’r amgueddfa yn wynebu toriad o 4.7% yn ei gymorth grant gan Lywodraeth Cymru ar ben y gostyngiad o 25% yn ei hincwm dros y pum mlynedd diwethaf.

Dywedodd Amgueddfa Genedlaethol Cymru mewn datganiad: “Mae taliadau premiwm yn lwfans a delir i staff yr amgueddfa ar ben y cyflog sylfaenol am weithio dyddiau Sadwrn, Sul a Gwyliau Banc. Dyw’r taliadau hyn ddim yn cael eu talu gan y rhan fwyaf o gyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru neu amgueddfeydd cenedlaethol bellach.

“Roedd yn fwriad gan Amgueddfa Cymru i ddod i gytundeb ar y cyd gyda’i undebau llafur cydnabyddedig ar ddyfodol y lwfansau, ac wedi gwneud popeth o fewn ei allu dros y ddwy flynedd ddiwethaf i wneud hynny.”