Banc bwyd (Llun: Trussell Trust)
Mae sinema yn Sir Conwy yn gofyn i gwsmeriaid dalu mewn tuniau bwyd, yn hytrach nag arian, i weld ffilm newydd Dad’s Army.

Bydd y cynnig yn sinema Theatr Colwyn – y sinema hynaf ym Mhrydain – ond yn ddilys ar gyfer dangosiad y ffilm ar 17 Ebrill, gyda’r tuniau bwyd yn cael eu rhoi i Fanc Bwyd Conwy.

Hefyd mae rheolwyr y sinema yn gwadd y cyhoedd i wisgo dillad o’r 1940au ar gyfer y digwyddiad, sy’n rhan o Ŵyl y Pedwar Degau yn y dref.

Dywedodd Phil Batty, rheolwr Theatr Colwyn:  “Rydym ni eisiau i bobl ddod yma gyda thuniau o fwyd yn gyfnewid am docynnau…

“Yn ogystal, bydd unrhyw un sy’n dod yma gyda llyfr dogni go-iawn yn cael paned o de am ddim!”