Mae’r heddlu yng Nghaerdydd yn ymchwilio yn dilyn tân mewn hen ysgol yn ardal Trelai neithiwr.

Cafodd y frigâd dân eu galw toc cyn 11 neithiwr i’r digwyddiad yn hen Ysgol Uwchradd Glyn Derw a dywedodd yr heddlu bod yr adeiladau wedi dioddef niwed sylweddol.

Mae adroddiadau bod tua hanner yr ysgol wedi cael ei dinistrio ac roedd tua 50 o ddiffoddwyr tân ar y safle pan oedd y goelcerth yn ei hanterth.

Nid yw’n glir os cafodd y tân ei gynnau’n fwriadol.

Cafodd yr ysgol ei chau dros y Nadolig oherwydd ei bod mewn cyflwr gwael a symudwyd y disgyblion i Goleg Cymunedol Llanfihangel.

Mae ysgol uwchradd newydd sbon i fod i gael ei hadeiladu ar y safle erbyn mis Medi 2018.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu ar 101 neu drwy ffonio Taclo’r Taclau ar 0800 555111.