Mae’r gwasanaethau tân yn dal i geisio diffodd tân mewn ysgol wag yng Nghaerdydd ar ôl bod yno dros nos.
Ac mae’r heddlu wedi datgelu eu bod nhw’n credu bod y tân wedi ei gynnau’n fwriadol.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Ysgol Uwchradd Glyn Derw yn Nhrelái am tua 10.00 nos Iau, ac fe ddywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru bod 55 o ddiffoddwyr yno ar un adeg.
Roedd hynny ar ôl i nifer tebyg gael eu galw i dân arall mewn siop ddodrefn yn ardal y Rhath y ddinas.
Adeilad gwag
Mae’r ysgol oedd ar dân dros nos wedi bod yn wag ers i’w disgyblion symud oddi yno i Goleg Cymunedol Michaelston dros y Nadolig.
Cafodd bron i hanner yr adeilad ei dinistrio yn y tân, ond gan nad oes unrhyw adeiladau eraill yn agos iddi doedd dim rhaid gofyn i drigolion lleol symud o’u cartrefi.
“Rydyn ni dal ar y safle ond mae ein gwaith bellach wedi lleihau, ac 20 diffoddwr tan sydd ar ôl,” meddai llefarydd ar ran y gwasanaeth tân fore Gwener.
Mwg yn codi
Roedd swyddogion tân y brifddinas eisoes wedi bod yn brysur nos Iau yn dilyn tân arall mewn siop ddodrefn ar City Road.
Fe wnaeth hynny achosi rhan o do’r adeilad i gwympo, ond fe lwyddodd y gwasanaeth tân i atal y fflamau rhag cyrraedd adeiladau cyfagos.
Eto, cafodd dros hanner cant o ddiffoddwyr eu galw yno toc wedi 6.00yh, gyda’r mwg oedd yn codi o’r tân i’w weld mewn sawl rhan o’r ddinas.
Dywedodd Heddlu De Cymru y dylai pobol ddisgwyl i rai o’r strydoedd cyfagos barhau i fod ar gau ddydd Gwener, wrth iddyn nhw ymchwilio i achos y tân.