Cafodd Stuart Bates a'i fab Fraser eu taro a'u lladd fis Rhagfyr y llynedd
Mae dyn 22 oed wedi cael ei gyhuddo o achosi marwolaethau tad a mab drwy yrru’n beryglus.

Cafodd Stuart Bates, 43, a’i fab Fraser, 7, eu taro gan gar Alfa Romeo wrth iddyn nhw groesi’r ffordd yn Talbot Green yn Rhondda Cynon Taf ar Ragfyr 6 y llynedd.

Bydd gyrrwr y car, sy’n dod o Donyrefail, gerbron Llys Ynadon Pontypridd ar Fai 6.