Amheuon am ddyfodol Wylfa Newydd
Mae mudiad gwrth-niwclear PAWB wedi cwyno wrth y BBC ynglŷn â stori ar raglen Newyddion 9 ynglŷn â dyfodol pwerdy Wylfa ym Môn.

Ddydd Mawrth fe gafodd cwestiynau eu codi gan arbenigwr ar y diwydiant niwclear a fyddai’r cynllun i adeiladu gorsaf Wylfa Newydd yn gweld golau dydd.

Cafodd y pryderon hynny eu hwfftio gan Horizon, y cwmni sydd yn gyfrifol am ddatblygu’r orsaf, yn ogystal ag arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn.

Ond mae mudiad PAWB bellach wedi cwyno wrth Reolwr Gyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies ar ôl i’w safbwyntiau nhw gael eu hanwybyddu mewn pecyn newyddion yn trafod y mater.

‘Dim cyfle’

Mewn llythyr sydd wedi’i weld gan golwg360, dywedodd Dylan Morgan o’r mudiad bod ymateb llefarwyr o Horizon a PAWB wedi cael eu cynnwys ar raglenni fel y Post Cyntaf ar Radio Cymru, ond nid yn y pecyn newyddion gyda’r hwyr ar S4C.

“Rhoddwyd cyfle unwaith eto i Richard Foxhall amddiffyn safbwynt Horizon Nuclear eu bod yn benderfynol o fwrw ymlaen â’r prosiect,” meddai’r llythyr gan PAWB at y gorfforaeth.

“Ar ben hynny, ymddangosodd y Cynghorydd Ieuan Williams, Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn i ailadrodd y ddadl am swyddi ynghlwm â Wylfa B a chefnogaeth y Cyngor i’r prosiect.

“Cafwyd cyfweliad byr gyda Mycle Schneider [yr arbenigwr a leisiodd bryderon], ond dim cyfle i lefarydd o PAWB i gyflwyno’n safbwynt ni.”

Ynni adnewyddadwy

Mynnodd Dylan Morgan na fyddai wedi bod yn anodd cael gafael ar gynrychiolydd o PAWB i gyfrannu at yr eitem, gan fynnu bod torfeydd sylweddol yn nigwyddiadau diweddar y mudiad yn dangos bod ganddynt gefnogaeth leol.

Ychwanegodd bod “elfen chwithig arall yn yr adroddiad dan sylw” hefyd, sef nad oedd faint yr oedd ynni adnewyddadwy yn ei gyfrannu at ffynonellau trydan Prydain wedi cael ei grybwyll.

Roedd yr adroddiad wedi sôn bod 20.8% o ynni’r wlad yn dod o ffynonellau niwclear, 22.6% yn dod o ffynonellau glo, a 29.5% yn dod o ffynonellau olew, meddai – heb grybwyll y 25% oedd yn cael ei gyfrannu drwy ynni adnewyddadwy.

“Pam y golygwyd y ffaith drawiadol hon allan o stori Newyddion Naw neithiwr?” holodd yr ymgyrchydd.

Mae BBC Cymru wedi cadarnhau eu bod nhw wedi derbyn cwyn, ac y byddan nhw’n ymateb maes o law.