Omair Abbas wedi'i weld yn ardal Ffordd Leckwith ar 31 Mawrth
Mae Heddlu’r De wedi cyhoeddi llun camera cylch cyfyng o ddyn ifanc sydd wedi bod ar goll ers diwedd mis Mawrth.

Dydy Omair Abbas, 18 oed, ddim wedi cael ei weld ers 4 o’r gloch brynhawn dydd Iau, 31 Mawrth.

Cafodd y llun sydd wedi ei gyhoeddi ei dynnu am 4:52 y diwrnod hwnnw wrth iddo gerdded ar draws cylchfan ger archfarchnad Asda ar Ffordd Leckwith.

Cafodd ei weld diwethaf gan gamerâu ger pont yr A4232.

Mae’r heddlu’n apelio am unrhyw un oedd yn yr ardal ar y pryd ac alla’i fod wedi gweld  Omair Abbas i gysylltu â nhw.

Mae’n 6’2”, a chanddo gwallt tywyll byr a barf. Pan gafodd ei weld ddiwethaf roedd yn gwisgo crys du, trowsus du a siaced ddu.

Mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101.