Dydy'r Eglwys yng Nghymru ddim yn barod am briodasau hoyw, medd Archesgob Cymru
Mae’n rhaid i bobol hoyw a lesbiaid deimlo y gallan nhw fod yn “agored ac onest, cael eu parchu a’u cadarnhau” yn yr Eglwys yng Nghymru.
Dyna farn esgobion mewn llythyr ar y cyd yn ymateb i ymgynghoriadau a dadleuon ynglŷn â phriodasau o’r un rhyw, mater fu’n destun trafod ymysg aelodau’r Eglwys yn ddiweddar.
Cafwyd ymddiheuriad hefyd am yr erledigaeth a chamdriniaeth y mae pobol hoyw a lesbiaid wedi’i gael gan yr Eglwys yn y gorffennol.
Ond fe ddywedodd Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan ei bod hi’n rhy gynnar ar hyn o bryd i ystyried ailgyflwyno cynnig i ganiatáu priodasau hoyw.
Ymddiheuriad
Gwelwyd rhwyg pellach yn yr Eglwys Anglicanaidd ym mis Ionawr wedi i gangen Americanaidd y Gymundeb gymeradwyo priodasau hoyw.
Dyw’r Eglwys yng Nghymru ddim yn caniatáu priodasau hoyw ar hyn o bryd, ond yn eu neges fe ddywedodd yr esgobion ‘nad yw’r ddadl drosodd’.
Mewn arwydd o geisio cymodi o fewn yr Eglwys ar y mater, dywedodd yr esgobion eu bod yn awyddus i sicrhau bod pobol hoyw yn cael eu “cadarnhau’n llawn fel disgyblion cyfartal” ac y bydden nhw’n gweddïo gyda nhw a drostyn nhw.
Yn ogystal â hynny, cafodd cyfres o weddïau ei chyhoeddi y mae modd eu dweud gyda chwpl yn dilyn dathlu partneriaeth sifil neu briodas sifil.
Rhy ychydig, neu gam yn rhy bell?
Serch hynny, fe gyfaddefodd Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan nad oedd yr Eglwys yn barod i fynd ymhellach na hynny ar hyn o bryd.
“Nid ydym yn barod, fel Eglwys, i gymryd y cam o awdurdodi priodas o’r un rhyw. Nid oes diben cyflwyno Bil er mwyn iddo fethu,” meddai.
“Gwn y bydd hynny’n siom i’r rhai a bleidleisiodd dros newid ac y bydd yn siom ddofn i gyplau o’r un rhyw o fewn yr Eglwys yng Nghymru sy’n dyheu am gyfle i wneud eu haddunedau yn un o’n heglwysi.
“Teimlwn ni, fel esgobion, mai dyma’r peth cywir i’w wneud ar hyn o bryd. Sylweddolaf y bydd rhai pobl yn ystyried bod y gweddïau hyn yn rhy ychydig yn rhy hwyr ac y bydd eraill yn eu hystyried fel cam yn rhy bell.
“Ni chaiff neb eu gorfodi i’w defnyddio, ond cânt eu paratoi ar gyfer y rhai a hoffai wneud hynny. Nid yw’r gweddïau hyn yn ffurfio gwasanaeth bendithio.”