Mae mudiad sy’n pwyso am statws i’r iaith Gymraeg yn fodlon wedi cyfarfod gyda Phrif Weithredwr S4C na fydd is-deitlau gorfodol yn rhan o’r bwriad wrth ddatblygu’r sianel.

Mae Dyfodol i’r Iaith yn dweud iddyn nhw gael cadarnhad yn y cyfarfod a Ian Jones mai “ymgyrch i godi ymwybyddiaeth” yn unig oedd gosod is-deitlau Saesneg ar y sgrin yn ystod yr rhaglenni oriau brig ddechrau Mawrth.

Yn dilyn y cyfarfod “adeiadol”, dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol: “Roeddem yn falch iawn o’r cyfle hwn i drafod gwaith a chynnyrch y sianel gyda’i Phrif Weithredwr.

“Yn amlwg, mae ganddi rôl allweddol i’w chwarae mewn hyrwyddo’r iaith a’n diwylliant. Bu’n gyfle hefyd i ategu ein cefnogaeth i ddarlledu cyfrwng Cymraeg, a byddwn yn cyfrannu ein sylwadau fel rhan o’r Adolygiad sydd ar y gweill.”