Mae ceblau trydan ger maes awyr Birmingham yn effeithio ar wasanaethau Trenau Arriva Cymru ar hyn o bryd.

Dywedodd Network Rail bod hyn wedi ymyrryd ar wasanaethau trenau gogledd Cymru, ynghyd â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig gan gynnwys Caeredin, Manceinion, Llundain a Southhampton.

Mae gwasanaethau Virgin Trains, London Midland a CrossCountry wedi eu heffeithio hefyd.

Does dim trenau’n rhedeg rhwng maes awyr Birmingham a Birmingham New Street, ac mae disgwyl i’r oedi barhau tan tua 3pm.