Fe gafodd Ysgrifennydd Busnes llywodraeth San Steffan, Sajid Javid, ei groesawu i Bort Talbot heddiw gan brotestiadau, er bod cynghorydd lleol yn credu bod o hyd “lygedyn o obaith” tros achub y gweithfeydd dur.

Fe gyhoeddodd cwmni Tata yr wythnos hon eu bod nhw’n bwriadu cau’r ffatri, sydd yn gwneud colledion ar hyn o bryd, gan beryglu swyddi miloedd o bobol.

Roedd gweithwyr yn aros y tu allan i’r ffatri heddiw wrth i Sajid Javid ymweld â’r safle, gan gwyno nad yw llywodraeth Prydain wedi gwneud digon i ddiogelu dyfodol y diwydiant.

Ond er yr anghydfod rhwng gweithwyr a’r llywodraeth mae Aelod Cabinet Cyngor Sir Castell-nedd Port Talbot dros Ddatblygiad Economaidd, Anthony Taylor, yn credu bod angen rhoi cyfle i’r gwleidyddion ddod i ddatrysiad.

“Mae’n rhaid rhoi hyn i un ochr. Mae rhywbeth mwy yn y fantol yn fan hyn, ‘dyn ni’n sôn am fywoliaeth pobol, dyfodol pobol, swyddi pobol, ac mae hynny’n llawer pwysicach nag unrhyw beth arall,” meddai Anthony Taylor wrth golwg360.

‘Celwydd’

Ond yn ôl Dennis Keogh, cynghorydd ym Mhort Talbot, mae’r ffaith bod llywodraeth Prydain wedi ymladd yn erbyn mesurau’r Undeb Ewropeaidd i atal Tsieina rhag dympio dur rhad yn golygu nad yw gweithwyr yn teimlo eu bod ar eu hochr nhw.

“Petai hi ddim am yr undebau, ac ymweliad Stephen Kinnock ag India i ddadlau’r achos, mae’n siŵr y bydden nhw [Tata] jyst wedi cau’r lle,” meddai Dennis Keogh, oedd yn gweithio yn y gweithfeydd dur am 46 mlynedd, wrth golwg360.

“Ar hyn o bryd mae llygedyn o obaith yn dal i fod,” meddai.

“Ond mae’r llywodraeth yma wedi ymddwyn yn warthus, gyda’r newyddion eu bod nhw wedi ceisio atal y tariffs o’r Undeb Ewropeaidd. Sawl ffordd wahanol allwch chi ddweud celwydd?

“Mae pob llywodraeth, waeth beth yw eu lliw, yn dda am sbinio. Ond mae’r llywodraeth yma ar y droed ôl ar hyn o bryd, a dw i’n meddwl bod hyd yn oed meinciau cefn y Torïaid yn mynd yn nerfus nawr.

“Dydyn ni ddim yn siarad fan hyn am Bort Talbot yn unig, ‘dyn ni’n siarad am y diwydiant dur ym Mhrydain gyfan.”

‘Anwybyddu rhybuddion’

Mae grŵp masnachu UK Steel eisoes wedi mynegi eu pryder nad yw llywodraeth Prydain wedi gwrando ar eu rhybuddion blaenorol am ddyfodol y diwydiant.

“Ers dros 15 mlynedd rydyn ni wedi bod yn dweud wrth lywodraeth ar ôl llywodraeth bod sawl polisi gwallus wedi bod yn niweidiol tu hwnt i sector ddur Prydain,” meddai cyfarwyddwr y grŵp Gareth Stace.

“O’u rhoi nhw i gyd at ei gilydd mae hynny wedi arwain at y sefyllfa druenus rydyn ni’n canfod ein hunain ynddi heddiw – sefyllfa sydd lawer gwaeth na’r hynny roedden ni wedi’i ddisgwyl ar ôl cae safle Redcar chwe mis yn ôl.”

Mae undeb y GMB hefyd wedi cyhuddo’r llywodraeth o fod yn rhy barod i roi buddiannau Tsieina o flaen gweithwyr dur Prydain.

“Doedden ni erioed wedi dychmygu y byddai’r Blaid Dorïaidd yn caniatáu i blaid Gomiwnyddol Tsieina benderfynu ar ddyfodol diwydiannau hanfodol fel dur ac ynni ym Mhrydain,” meddai ysgrifennydd cyffredinol yr undeb Tim Roache.

“Mae’n bryd i’r senedd warchod hawl pobol Prydain i amddiffyn ein diddordebau cenedlaethol hanfodol.”

‘Gwneud pethau’n waeth’

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd bellach wedi beirniadu agwedd y llywodraeth Geidwadol tuag at achub y diwydiant dur yn dilyn ymweliad y Gweinidog Busnes.

“Beth yw’r ots bod Sajid Javid yn dod yma ac addo gweithredu, os yw ei eiriau o gefnogaeth tuag at y sector ddur yn wahanol iawn i’w record?” meddai llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig ar yr economi, Eluned Parrott.

“Y ffaith yw nad yw Mr Javid a’r Torïaid wedi gwneud unrhyw beth i leddfu’r argyfwng.

“Mae pobol wedi cael digon ar esgusodion; mae angen iddo esbonio wrth weithwyr dur pam fod ei lywodraeth wedi ymladd yn erbyn mesurau’r Undeb Ewropeaidd i atal Tsieina rhag dympio dur rhad sydd wedi bod yn dinistrio ein diwydiannau.

“Nid yn unig y mae’r llywodraeth Dorïaidd yma wedi eistedd ar y dwylo, maen nhw wedi gwneud pethau’n waeth.”