Caban - heb ddrws (Llun: Karen Owen)
Lai na chwe mis ers agor canolfan gelfyddydau Pontio ym Mangor, mae son am lawnsio apel i godi arian i gael drws ar y ‘Caban’ dadleuol ar y safle.
Mae golwg360 yn deall bod angen drws ar y Caban – gwaith celf sydd wedi’i seilio ar hanes caban y chwarelwyr yn nyffrynnoedd chwarelyddol Ogwen, Peris a Nantlle – oherwydd bod myfyrwyr meddw yn camddefnyddio’r lle yn hwyr y nos.
Ond, oherwydd bod y fynedfa i’r greadigaeth gan artist o’r Iseldiroedd o siâp afreolaidd, metrig, fe fydd angen ffitio drws clo arbenigol arno, ar gost o £120,000 – sef union yr un faint ag a gostiodd y Caban ei hun i’w gomisiynu a’i greu.
At hynny, mi fydd angen caniatad cynllunio, gan mai fel strwythur dros-dro y bwriedwyd y Caban o’r cychwyn, ac nid fel uned gaeedig y gallai rhywun gysgu ynddo dros nos.
Cabanau eraill?
Fe all fod Cabanau ar eu ffordd hefyd i brom Aberystwyth, canolfan newydd sbon Yr Egin (pencadlys S4C) yng Nghaerfyrddin, ac i Fae Caerdydd.
Y syniad, meddir, ydi bod symboliaeth caban y chwarelwr yn un rynwgadol, sy’n addas ar gyfer pob man lle mae yna drafod agored, creadigol, yn digwydd.
Darn o gelf ydi Caban, wedi’i greu gan yr artist Joep Van Lieshout o Rotterdam yn yr Iseldiroedd.
Ond mae cryn ymateb wedi bod i’r Caban yn y wasg leol ym Mangor, gyda rhai’n ei gyffelybu i ‘Dy’r Teletubbies’, eraill i rywbeth wedi glanio o’r gofod, neu rai’n credu bod y lliw gwyrdd yn eu hatgoffa o’r hyn gewch chi ar hanes ar ol sychu eich trwyn.
Cyfarfod brys
Gan fod Cyngor Gwynedd eisoes yn cyfarfod ddydd Llun (Ebrill 4) i drafod cais cwmni Morbaine i godi 366 o dai newydd yn ninas Bangor, y gred ydi y gallai mater drws y Caban gael ei ychwanegu at yr agenda, gan ‘Unrhyw Fater Arall’.
Os y daw caniatad cynllunio, mae hynny’n gadael problem arall i reolwyr safle’r Caban – sef sut y byddan nhw’n talu am y drws? Mae rhai o bobol dinas Bangor o blaid lawnsio apêl gyhoeddus, a gofyn i’w cyd-drigolion gyfrannu o’u pocedi eu hunain i hel y £120,000 am y drws Ewropeaidd.