Y pysgod aur gafodd eu hachub ger draen system ddwr yn Y Fenni
Mae RSPCA Cymru yn apelio am wybodaeth ar ôl i swyddogion achub chwe physgodyn aur ger draen system ddŵr yn y Fenni.

Cafodd dau bysgodyn aur eu hachub ar 22 Mawrth a phedwar arall ar 30 Mawrth o’r un ffos yn Fosterville  Crescent.

Mae’r RSPCA yn credu bod y pysgod wedi cael eu gollwng yno’n fwriadol ac maen nhw’n galw ar bobol i fod yn fwy cyfrifol.

Mae rhyddhau unrhyw anifail sydd ddim yn frodorol yn y gwyllt yn anghyfreithlon o dan y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.

Apelio am wybodaeth

“Gallai’r pysgod aur hyn fod wedi dod o rywle, felly rydym yn apelio am wybodaeth i geisio canfod beth ddigwyddodd,” meddai arolygydd y RSPCA, Kate Parker.

“Mae’r ffos lle cawson nhw eu darganfod yn gwymp o 12 troedfedd felly mae’n annhebygol eu bod nhw wedi cael eu gollwng yno.

“Mae’n rhaid bod rhywun wedi eu gadael nhw’n rhydd i’r system ddŵr yn groes i’r llif.”

Dywedodd fod y pysgod i weld yn iach a’u bod wedi cael eu cymryd gan wirfoddolwr.

Mae RSPCA Cymru yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 0300 123 8018.