Carwyn Jones
Mae cwmni dur Tata wedi cadarnhau y bydd yn gwerthu ei fusnes yn llawn, yn hytrach na’i werthu fesul rhan, sy’n rhoi rhyw faint o obaith i weithwyr y safle ym Mhort Talbot sy’n wynebu dyfodol ansicr.

Bu Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn siarad â Koushik Chatterjee, Prif Swyddog Cyllid y cwmni, gan alw ar y cwmni i ganiatáu “misoedd, yn hytrach nag wythnosau” i geisio gwerthu’r busnes yn y DU.

Mae’n debyg bod y ddau wedi cael “trafodaeth blaen ac agored”, meddai’r llefarydd, gyda Tata Steel yn “ymrwymo i broses werthu lawn, yn hytrach na phroses werthu fesul rhan”.

“Pwysleisiodd y Prif Weinidog yr angen i Tata Steel ddangos ei gyfrifoldeb corfforaethol i’r wlad a’n gweithwyr,” meddai’r llefarydd.

‘Cadw’r asedau mewn cyflwr addas’

 

Mae Tata yn cyflogi miloedd o weithwyr ledled Cymru, gyda’i safle dur mwyaf ym Mhort Talbot yn cyflogi 4,000 o weithwyr.

Yn ôl llefarydd ar ran Carwyn Jones, gofynnodd hefyd am sicrwydd y byddai asedau’r cwmni yng Nghymru yn cael eu cadw mewn “cyflwr addas” i’w gwerthu i sicrhau “pob cyfle” i ddod o hyd i brynwr.

Daeth dim cadarnhad beth oedd ymateb Tata i ofynion y Prif Weinidog.

Diystyru gwladoli’r diwydiant

Yn y cyfamser mae Llywodraeth San Steffan wedi diystyru gwladoli’r diwydiant dur ar ôl i’r Prif Weinidog David Cameron gyfaddef nad oedd sicrwydd o ddatrys yr argyfwng presennol.

Bu’n cadeirio cyfarfod brys gyda gweinidogion yn Downing Street i drafod penderfyniad annisgwyl Tata i werthu ei holl safleoedd yn y DU.

Dywedodd arweinydd undeb Community nad oedd yn fodlon gydag ymateb y Llywodraeth gan gyhuddo gweinidogion o beidio gwneud digon i lobio Tata cyn i’r cwmni wneud ei benderfyniad.

Nid oedd yr Ysgrifennydd Busnes Sajid Javid yn y cyfarfod am ei fod yn teithio nôl o Awstralia ar ôl iddo ddod a thaith fasnach i ben yn gynnar oherwydd yr argyfwng.

Mae gweithwyr ym Mhort Talbot wedi clywed y bydd Sajid Javid yn ymweld â’r safle heddiw ond ni fydd yn cyrraedd nol i’r DU tan yn ddiweddarach prynhawn ma.

Mae David Cameron wedi dweud bod y Llywodraeth yn gwneud “popeth yn ei gallu” i geisio datrys yr argyfwng.

Deiseb

Mae 100,000 o bobl bellach wedi arwyddo deiseb y Blaid Lafur sy’n galw ar y Senedd i ail-ymgynnull i drafod y sefyllfa.

“Mae’n rhaid i David Cameron wrando ar bobl Prydain a galw’r Senedd yn ôl,” meddai arweinydd y blaid Jeremy Corbyn.