David Cameron
Bydd y Prif Weinidog, David Cameron, yn cadeirio cyfarfod brys o’i gabinet heddiw i drafod yr argyfwng dur sy’n wynebu Port Talbot a safleoedd dur eraill ledled y wlad.

Mae’n dilyn cyhoeddiad cwmni dur Tata nos Fawrth y bydd yn gwerthu ei holl safleoedd yn y DU oherwydd colledion mawr, gan arwain at ansicrwydd ynglŷn â miloedd o swyddi yn y diwydiant.

Bydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn trafod â swyddogion Tata a’r undebau llafur heddiw ac mae wedi bod yn trafod yr argyfwng dros y ffôn a David Cameron. Dywedodd Carwyn Jones ei fod yn bwysig “cyd-weithio i sicrhau dyfodol i’r diwydiant.”

Beirniadaeth gan yr undebau

Mae Llywodraeth San Steffan yn wynebu beirniadaeth gan undebau am ddweud ei bod yn “ystyried pob opsiwn posib” i achub y diwydiant, ond mae wedi gwrthod y posibilrwydd o’i wladoli.

Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, ei fod wedi synnu nad yw’r Ysgrifennydd Busnes, Sajid Javid, yn fodlon ystyried gwladoli’r diwydiant.

Dywedodd Sajid Javid nad oedd gwladoli yn “ateb cynaliadwy yn yr hirdymor.”

Ond yn ôl ysgrifennydd cyffredinol yr undeb Community, Roy Rickhuss, mae hyn yn dangos bod y llywodraeth yn “ranedig”.

“Bydd y dryswch a’r negeseuon cymysg gan weinidogion yn gwneud i weithwyr dur ledled y DU boeni’n fwy,” meddai.

“Mae’r ffaith eu bod nhw’n dweud eu bod yn ystyried pob opsiwn un munud a’r nesaf yn dweud nad gwladoli yw’r ateb, yn dangos llywodraeth ranedig a heb yr ewyllys gwleidyddol i achub ein diwydiant.”

Cyllideb wedi ‘colli cyfle’

Roedd Cyllideb ddiweddaraf y Canghellor, George Osborne, yn gyfle oedd wedi’i golli i helpu’r diwydiant dur, meddai Angela Eagle, llefarydd busnes yr wrthblaid.

“Dylai’r llywodraeth fod yn gwneud popeth posib i ddiogelu’r diwydiant ond mae’r datblygiadau diweddar yn dangos nad oes gan y Torïaid strategaeth ar gyfer dur,” meddai.

“Mae’n amlwg bod gweithwyr dur yn y DU yn talu’r pris am flaenoriaethau anghywir y Torïaid.”

Yn wahanol i Aelodau Cynulliad, ni fydd Aelodau Seneddol  yn cyfarfod yn Nhŷ’r Cyffredin yn arbennig i drafod yr argyfwng ar ôl i Lywodraeth San Steffan wrthod ail-ymgynnull y senedd.

Fe fydd ACau yn ail-ymgynnull ym Mae Caerdydd ddydd Llun, 4 Ebrill.