Kirsty Williams
Fe fydd tair blaenoriaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn cael eu datgelu wrth i’r blaid amlinellu eu maniffesto heddiw ar drothwy etholiadau’r Cynulliad.

Sicrhau rhagor o nyrsys, lleihau maint dosbarthiadau mewn ysgolion a rhoi hwb i’r economi fydd prif ffocws y blaid wrth iddyn nhw droi eu sylw at fis Mai.

Maen nhw am weld rhagor o nyrsys ar wardiau iechyd meddwl a mamolaeth, a rhagor o nyrsys yn y gymuned.

Mewn ymgais i leihau maint dosbarthiadau mewn ysgolion cynradd, mae’r blaid yn cynnig grantiau arbennig, wrth iddyn nhw ddadlau bod gormod o bwyslais ar ddosbarthiadau mawr.

 

‘Plaid sy’n gwrando’

 

Wrth geisio rhoi hwb i economi Cymru, mae cynlluniau’r blaid yn cynnwys cynyddu faint o brentisiaethau sydd ar gael, rhoi mwy o gefnogaeth i fusnesau bychain, helpu pobol i brynu eu tŷ cyntaf a chynnig pecyn gofal plant er mwyn i rieni gael dychwelyd i’r gwaith.

Ar drothwy’r lansiad yn Aberystwyth, dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams: “Mae’r weledigaeth rydyn ni’n ei chyflwyno ar gyfer yr etholiad hwn yn dangos mai plaid sy’n gwrando ydyn ni.

“Pobol fydd yn dod gyntaf gyda ni, a dyna pam mai ein blaenoriaethau ni yw eich blaenoriaethau chi.”

‘Trin cleifion gydag urddas’

 

Ychwanegodd nad oes disgwyl gwyrthiau o ran y Gwasanaeth Iechyd, ond fod y cyhoedd yn disgwyl “bod gan staff ddigon o amser i drin cleifion gyda’r urddas maen nhw’n ei haeddu”.

“Mae pobol wedi’u siomi gan Lywodraeth Lafur sy’n parhau i fethu i gael y pethau sylfaenol yn iawn o ran ein gwasanaethau cyhoeddus, ac maen nhw wedi syrffedu ar wleidyddion yn pregethu o hyd.”