Mae Jeremy Corbyn wedi galw am ail-ymgynnull y Senedd yn San Steffan i drafod yr argyfwng sy’n wynebu’r diwydiant dur yn dilyn y newyddion y bydd Tata yn gwerthu’r busnes yn y DU.

Mae arweinydd y Blaid Lafur wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog David Cameron, gan ddweud bod angen i Aelodau Seneddol gael y cyfle i drafod dyfodol y diwydiant ym Mhrydain a dal gweinidogion i gyfrif “dros eu methiant i beidio ag ymyrryd”.

Yn y cyfamser, mae Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, Rosemary Butler, wedi cadarnhau ei bod wedi galw ar Aelodau’r Cynulliad i ail-ymgynnull, ar 4 Ebrill yn dilyn cais swyddogol gan y Prif Weindiog, Carwyn Jones.

Dywedodd y Fonesig Rosemary Butler: “Yn dilyn cais gan y Prif Weinidog, credaf fod sefyllfa bresennol y diwydiant dur yng Nghymru yn fater o bwysigrwydd cyhoeddus y dylid ei drafod ar fyrder.

“Felly, rwyf wedi penderfynu galw’r Cynulliad yn ôl i gyfarfod ddydd Llun, 4 Ebrill.”

Fe fydd yr Ysgrifennydd Busnes, Sajid Javid, sydd ar daith fasnach i Awstralia, yn dychwelyd yn gynnar i’r DU oherwydd yr argyfwng dur, meddai llefarydd ar ran ei swyddfa.

Dyfodol cymuned yn y fantol

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, wedi galw ar Lywodraeth Prydain i ddangos yr un gefnogaeth i’r diwydiant dur ag a roddwyd i’r sector bancio yn dilyn yr argyfwng economaidd yn 2008.

“Fe wnaethom gydnabod pwysigrwydd y sector bancio i’n heconomi ac mae angen cefnogaeth debyg i sicrhau ein diwydiant dur hanfodol,” meddai ar Twitter.

Mae’r newyddion y bydd Tata yn gwerthu ei safle dur ym Mhort Talbot wedi ysgwyd y gymuned leol, gan roi 4,000 o swyddi mewn perygl.

Ond mae’r felin drafod, IPPR, wedi dweud y gallai cynifer â 40,000 o swyddi – sy’n cynnwys contractwyr a chyflenwyr y cwmni – gael eu colli pe bai safleoedd dur Tata yn mynd.

‘Eisiau amser i sicrhau prynwr’

Mae Llywodraeth Prydain wedi galw ar Tata i roi digon o amser iddyn nhw ddod o hyd i brynwr i’r safle.

Dywedodd y gweinidog busnes Anna Soubry: “Ry’n ni eisiau digon o amser i allu sicrhau prynwr. Fe fydd hynny’n cymryd misoedd.”

Fe fynnodd bod y Llywodraeth yn ystyried “yr holl opsiynau” ac mae wedi codi’r posibilrwydd o gynnwys uwch-reolwyr ac undebau mewn unrhyw gynlluniau yn y dyfodol.

Ychwanegodd Anna Soubry nad oedd hi’n sicr mai gwladoli’r diwydiant oedd y ffordd ymlaen, gan ddweud eu bod yn canolbwyntio ar ddod o hyd i brynwr.

“Mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn dod o hyd i brynwr llwyddiannus. Dyna’r freuddwyd,” meddai wrth raglen Today ar BBC Radio 4.

Dywedodd eu bod yn cydymdeimlo a Tata, sy’n colli £1 miliwn bob dydd yn ei safleoedd yn y DU, ac wedi buddsoddi’n “helaeth” ym Mhort Talbot, a bod yn rhaid i’r Llywodraeth fod yn “realistig ynglŷn â chyflwr y diwydiant.”

Mae Carwyn Jones hefyd wedi dweud wrth raglen Today nad oes gan Lywodraeth Cymru yr adnoddau i gymryd cyfrifoldeb am y safleoedd dur yng Nghymru nes eu bod yn dod o hyd i brynwr.

“Pan fydd y farchnad yn codi ar ei thraed eto fe fydd Port Talbot mewn sefyllfa dda,” meddai.