Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi buddsoddiad newydd gwerth £10.3 miliwn i Wasanaeth Ambiwlans Cymru heddiw.
Yn sgil y cyllid ychwanegol, fe fydd y gwasanaeth yn buddsoddi mewn 94 cerbyd ambiwlans newydd at ddibenion arbenigol.
Bydd hyn yn ychwanegu at y 706 o gerbydau sydd eisoes gan y gwasanaeth ledled Cymru.
‘Gyda’r mwya’ modern yn y DU’
Dywedodd Richard Lee, Cyfarwyddwr Gweithrediadau dros dro Gwasanaeth Ambiwlans Cymru fod ambiwlansys Cymru “gyda’r mwya’ modern yn y Deyrnas Unedig, ac yn cynnwys y cyfarpar gorau hefyd.
“Bydd y cyllid hwn yn caniatáu i ni barhau i gael cerbydau newydd yn lle’r hen rai wrth iddyn nhw ddod at ddiwedd eu hoes ymarferol.
“Mae ambiwlansys modern yn hanfodol er mwyn i ni fedru parhau i ddarparu’r driniaeth orau bosib a’r profiad gorau i gleifion.”
‘Hanfodol’
Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, fod y galw ar Wasanaeth Ambiwlans Cymru “yn cynyddu bob blwyddyn.”
O ganlyniad, “mae’n hanfodol i ni fuddsoddi yn y cerbydau diweddara’ er mwyn i’r gwasanaeth fedru darparu’r gofal gorau posibl i bobl Cymru.”
Mae’r cyllid yn ychwanegol at y £34.3 miliwn y mae’r llywodraeth eisoes wedi ei fuddsoddi i Wasanaeth Ambiwlans Cymru ers 2011.