Alun Cairns
Fel rhan o’i ymweliad swyddogol cyntaf heddiw, fe fu Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, yn gwthio’r cynnig am sefydlu Bargen Ddinesig arall i Gymru.

Ychydig dros wythnos wedi iddo gymryd yr awenau fel Ysgrifennydd Cymru, fe fu Alun Cairns yn ymweld ag Abertawe i gyfarfod â Chadeirydd Ffederasiwn Busnesau Bach Bae Abertawe.

Bu’n trafod ymrwymiad y Canghellor George Osborne yn y Gyllideb i gynnal trafodaethau â phartneriaid lleol a Llywodraeth Cymru am Fargen Ddinesig i ranbarth Bae Abertawe.

Mewn cyfweliad â golwg360 yn dilyn ei benodiad, dywedodd mae ei flaenoriaeth fel Ysgrifenydd Cymru yw “cyflawni rhai o’r mesurau a gafodd eu cyhoeddi’r wythnos ddiwethaf yn y Gyllideb, er enghraifft y Fargen Ddinesig i Gaerdydd, y cynllun i dyfu economi’r Gogledd a hefyd y pecyn i Fae Abertawe.”

‘Gweledigaeth gyffrous’

Esboniodd fod Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi selio Bargen Ddinesig yn ddiweddar, “sy’n addo i drawsnewid y ddinas” gan arwain mewn twf economaidd yn y DU.

“Mae’r Llywodraeth yn cydnabod potensial rhanbarth Bae Abertawe i ddarparu’r un weledigaeth gyffrous,” meddai.

“O fusnesau sy’n creu swyddi, i’r Brifysgol sy’n cystadlu â rhai o’r sefydliadau gorau yn y byd, mae Llywodraeth Prydain yn deall y cyfraniad pwysig mae rhanbarth Abertawe yn ei wneud i sicrhau llwyddiant eu cynllun economaidd hirdymor.

“Rydym yn edrych ymlaen at weld trafodaethau fydd yn anelu at greu cytundeb allai drawsnewid tynged rhanbarth de a gorllewin Cymru gyfan.”

‘Rhan sylweddol’

Fe groesawodd Julie Williamson, Cadeirydd Ffederasiwn Busnesau Bach Bae Abertawe, y cyfle i gynnal trafodaethau ag Ysgrifennydd Cymru.

Dywedodd fod y “posibilrwydd o Fargen Ddinesig i Abertawe yn cyflwyno cyfle pwysig, ac rwy’n edrych ymlaen at weld busnesau bach ar draws rhanbarth Bae Abertawe yn chwarae rhan sylweddol yn y datblygiad.”