Fe fydd ymgyrch gan Lywodraeth Cymru sy’n anelu at leihau nifer y marwolaethau ac anafiadau difrifol sy’n gysylltiedig â beiciau modur ar ffyrdd yng Nghymru, yn cael ei lawnsio heddiw (Dydd Llun y Pasg).
Fel rhan o ymgyrch Crafanc y Ddraig, bydd heddweision ffyrdd pedwar heddlu Cymru yn ymuno â GOSAFE, Partneriaeth Camerâu Diogelwch Cymru, i fynd i’r afael â defnyddio’r ffyrdd mewn ffordd wrthgymdeithasol, yn enwedig gyrru’n wrthgymdeithasol, a lleihau nifer y damweiniau.
Bydd cymysgedd o gerbydau heddlu a GOSAFE cudd ac amlwg yn cael eu rhoi ar hyd safleoedd allweddol yng Nghymru gan ddefnyddio amrywiaeth o dactegau gan gynnwys ymgysylltu, addysg a gorfodi i helpu i leihau damweiniau ar y ffordd a mynd i’r afael â gyrru’n beryglus a gyrru’n wrthgymdeithasol.
Cyflwynodd yr Adolygiad argymhellion ar gyfer gwella diogelwch a lleihau nifer y damweiniau’n sylweddol ar ffyrdd yng Nghymru. Nododd 280 o rannau o gefnffyrdd lle y byddai mesurau pellach yn cael eu cyflwyno. Daeth y mesurau hyn o dan dri chategori, gyda phob lleoliad yn cael ei neilltuo ar gyfer naill ai newidiadau i’r terfyn cyflymder a/neu fesurau peirianyddol, gwelliannau diogelwch fel rhan o raglenni gwaith sy’n bodoli eisoes, neu gamau gorfodi a rhaglenni addysgol i’w cyflwyno mewn ymgynghoriad â’r heddlu – gydag ymgyrch Crafanc y Ddraig yn dod o dan y categori olaf.
“Mae damweiniau ffordd yn digwydd pob dydd a gall y canlyniadau fod yn drasig iawn,” meddai Edwina Hart, Gweinidog Economi, Llywodraeth Cymru. “Eto i gyd, mae modd osgoi bron pob un ohonyn nhw.
“Er bod ffyrdd Cymru ymysg y rhai mwyaf diogel yn y byd ac y gallwn ymfalchïo yn hynny, mae cryn le i wella o hyd ond mae gan bawb gyfrifoldeb am wella diogelwch a gall pawb chwarae eu rhan.
“Rydym yn awyddus i wella diogelwch a lleihau nifer y damweiniau ffordd, ac yn arbennig y rhai sy’n arwain at anafiadau difrifol ac angheuol. Dyma nod yr ymgyrch hwn a bydd yn ei gyflawni drwy gymysgedd o addysg a chamau gorfodi.”