Gyda’r cyffro am Ewro 2016 yn cynyddu, mae bellach modd gweld un o anthemau ymgyrch Cymru ar-lein, gyda fideo o luniau amrywiol cefnogwyr y tîm ar eu teithiau tramor.

Mae’r gân ‘Hogia Ni’ wedi cael ei recordio gan y band gwerin, Gwerinos ac un o brif artistiaid y sin gerddoriaeth Gymraeg, Yws Gwynedd yn arbennig ar gyfer ymgyrch y tîm yn Ffrainc.

Ar drothwy’r gystadleuaeth fawr, lle fydd miloedd o ffans pêl droed Cymru yn heidio i Ffrainc ym mis Mehefin, mae modd prynu’r trac digidol ar iTunes, Amazon neu o wefan Sain.

Bydd holl elw’r gân yn mynd i’r Elusen Gôl, a gafodd ei sefydlu gan gefnogwyr Cymru, sy’n mynd â rhoddion i blant difreintiedig yn y gwledydd tramor y bydd Cymru yn mynd i chwarae pêl droed.