Er gwaethaf tymor rhwystredig gyda Lerpwl mae Joe Allen yn parhau i fod yn un o chwaraewyr pwysicaf carfan Cymru (llun:CBDC)
Fe fydd herio Gogledd Iwerddon a’r Wcráin yr wythnos hon yn brawf da i Gymru wrth i’r tîm baratoi ar gyfer Ewro 2016, yn ôl Joe Allen.

Bu’r chwaraewr canol cae yn sgwrsio â Golwg360 yr wythnos hon wrth i’r tîm ddod at ei gilydd am y tro olaf cyn i’r garfan fydd yn mynd i Ffrainc gael ei enwi.

Mae Cymru’n wynebu’r Gwyddelod yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Iau cyn teithio i Kiev ar gyfer yr ail gêm nos Lun 28 Mawrth.

Nid paratoi ac ymarfer caled oedd popeth i’r chwaraewyr yr wythnos hon fodd bynnag, gan eu bod nhw hefyd wedi bod yn y stiwdio gyda’r Manic Street Preachers yn recordio cân swyddogol y tîm ar gyfer y gystadleuaeth.

Cafodd Joe Allen hefyd gyfle i gydweithio â’i chwaer, Kate, wrth iddyn nhw lansio prosiect yn annog mwy o ddisgyblion ysgol i ddysgu ieithoedd tramor.

Dyma’r chwaraewr yn sgwrsio rhywfaint am baratoadau’r wythnos, y frwydr i sicrhau lle ar yr awyren i Ffrainc, a’u hymgais i geisio perswadio’r golwr Owain Fôn Williams i ddangos ei ddoniau cerddorol!