Ched Evans yn cyrraedd yr Uchel Lys i glywed ei apêl (llun: Chris Radburn/PA)
Fe fydd rhaid i gyn bêl-droediwr Cymru Ched Evans aros tan fis nesaf i glywed a fydd ei apêl yn erbyn dedfryd am dreisio dynes 19 oed mewn gwesty yn Y Rhyl yn llwyddiannus.

Fe benderfynodd tri barnwr yn Llundain ddydd Mercher, ar ail ddiwrnod y gwrandawiad, na fydden nhw’n dod i ddyfarniad am y tro.

Roedd Evans, oedd yn chwarae i Sheffield United cyn iddo gael ei garcharu, yn y llys ar gyfer y gwrandawiad â’i gariad Natasha Massey wrth ei ochr.

Yn ôl adroddiadau mae’r cyn bêl-droediwr eisoes wedi dweud ei fod eisiau ailafael â’i yrfa petai ei apêl yn llwyddiannus.

Ail-gynnal yr achos?

Clywodd y barnwyr Hallett, Flaux a Maddison dystiolaeth gan Kieran Vaughan QC ar ran Evans, ac Eleanor Laws QC ar ran y Goron.

Ar ddiwedd yr achos, cyhoeddodd y Fonesig Ustus Hallett na fyddai’r tri yn dod i benderfyniad tan fis Ebrill.

Cafodd Ched Evans ei ryddhau o’r carchar yn 2014 ar ôl dwy flynedd a hanner dan glo, hanner ei ddedfryd.

Ond roedd yntau wedi mynnu ei fod yn ddieuog, ac ar ôl i’r achos gael ei ystyried eto gan y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol cafodd ei drosglwyddo i’r Llys Apêl.

Pe bai Evans yn ennill ei apêl, fe fydd yr erlynwyr yn gwneud cais am ail-gynnal yr achos.