Mae Ben Davies yn un o'r rheiny sydd yn sicr o fethu'r gêm gyntaf yn erbyn Gogledd Iwerddon (llun:David Davies/PA)
Mae Chris Coleman wedi cadarnhau bod rhagor o chwaraewyr Cymru’n debygol o fethu’r gêm gyfeillgar yn erbyn Gogledd Iwerddon nos fory oherwydd anafiadau.
Fe fydd Ben Davies yn methu’r ornest yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ôl cael clec i’w ben, tra bod amheuon hefyd dros ffitrwydd Neil Taylor, Tom Bradshaw, Jonny Williams a Hal Robson-Kanu.
Roedd rheolwr Cymru eisoes wedi gorfod cynllunio ar gyfer y gemau cyfeillgar yn erbyn y Gwyddelod a’r Wcráin dros benwythnos y Pasg heb Gareth Bale, Aaron Ramsey, James Collins, Andy King a Paul Dummett.
Ond fe ddywedodd Coleman y byddai’r ddwy gêm yn gyfle i gael cip ar ambell un o’r chwaraewyr ifanc a’r rheiny ar gyrion y garfan.
‘Gwell erbyn yr ail gêm’
“Rydyn ni wedi cael un neu ddau o broblemau,” meddai’r rheolwr wrth siarad â’r wasg ddydd Mercher.
“Fe fethodd Neil Taylor gêm y penwythnos diwethaf a dyw e heb ymarfer rhyw lawer, mae’n rhaid i ni fod yn ofalus gyda fe. Mae gan Tom Bradshaw broblem gyda llinyn y gâr ac mae’n bosib na fydd e’n ffit ar gyfer fory.
“Mae Ben Davies allan ar ôl yr anaf i’w ben ond fe fydd e’n iawn ar gyfer [gêm] Wcráin. Mae gan Jonny Williams broblem gyda llinyn y gâr, ond mae’n bosib y gwelwn i e ac fe fydd e’n chwarae rhyw ran.
“Mae dau neu dri gyda ni sydd methu dechrau yn y gêm gyntaf, ond fe fydd pethau’n well erbyn yr ail.”