Mae mesurau diogelwch wedi cael eu cynyddu ym Maes Awyr Caerdydd (llun: CC2.0/M J Richardson)
Mae mwy o swyddogion yr heddlu ym Maes Awyr Caerdydd heddiw er mwyn “sicrhau diogelwch y teithwyr” yn dilyn yr ymosodiadau ym Mrwsel ddydd Mawrth.
Dywedodd y maes awyr eu bod hefyd yn annog pobol i gadw llygad ar unrhyw ymddygiad amheus o gwmpas yr adeilad.
Mae sawl maes awyr ym Mhrydain wedi gweld cynnydd ym mhresenoldeb yr heddlu ers i gyfres o ffrwydradau ddigwydd ym maes awyr Brwsel, ac ar y system Metro yn agos i swyddfeydd yr Undeb Ewropeaidd, a laddodd dros 30 o bobol ddoe.
‘Un ar ffo’
Mae un o’r tri o ddynion sydd yn cael eu hamau o gynllwynio’r ffrwydradau, Najim Laachraoui, yn dal i fod ar ffo yn ôl y wasg yng Ngwlad Belg er gwaethaf rhai adroddiadau ei fod wedi cael ei ddal.
Y ddau arall sydd dan amheuaeth yw’r brodyr, Khalid a Brahim El Bakraoui, a gafodd eu gweld ar gamerâu cylch cyfyng y maes awyr.
Dywedodd yr erlynydd sydd yn ymchwilio i’r digwyddiadau, Frederic Van Leeuw, fod dau o’r tri “mwy na thebyg” wedi cyflawni hunanladdiad.
Y Wladwriaeth Islamaidd (IS) sydd wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiadau.