Mae elusen blant wedi dweud y gall Cymru “wneud mwy” i ddiogelu plant ar-lein, wrth gyhoeddi ei argymhellion i Lywodraeth nesaf Cymru.
Yn ôl ymchwil diweddar gan y ,, mae un o bob tri pherson sy’n defnyddio’r we yn blentyn.
Ac wrth gyhoeddi ei hargymhellion, dywedodd NSPCC mai’r we yw un o’r bygythiadau mwyaf sy’n wynebu plant heddiw, gan fod y we yn tyfu ar raddfa mor gyflym a bod cymaint yn ei defnyddio.
Mae gan un o bob pum plentyn sydd rhwng 8 ac 11 oed, a saith ymhob 10 plentyn rhwng 12 a 15 oed, broffil ar gyfryngau cymdeithasol, gyda 92% o blant wedi mynd ar y gwefannau hynny cyn iddyn nhw gyrraedd 13 oed.
Mae maniffesto NSPCC Cymru yn cynnwys cyflwyno gwersi gorfodol i blant ar ddiogelwch ar-lein a sicrhau bod y llywodraeth yn cyfathrebu’n effeithlon â’r cwmnïau cyfryngau cymdeithasol.
“Cyfle clir” i wneud y we’n fwy diogel
Wrth gyhoeddi’r argymhellion heddiw, dywedodd Pennaeth NSPCC Cymru, Des Mannion, bod angen gwneud mwy a bod gan ACau yn nhymor newydd y Cynulliad “gyfle clir” i wella diogelwch ar y we.
“Ni fydd gan ein gwlad dull cynhwysfawr nes i ni flaenoriaethu’r we a chyflwyno cynllun clir i sicrhau bod ein plant yn ddiogel yn y byd digidol,” meddai.
Mae cynigion eraill yr elusen yn cynnwys sefydlu grŵp annibynnol i gynghori’r llywodraeth ar faterion digidol a rhoi mwy o ganllawiau i weithwyr yn y sector cyhoeddus ar ‘secstio’ a’r gyfraith sydd o’i gwmpas.
Dywedodd hefyd ei fod am weld Cymru yn cael lle ar fforymau ledled y DU ar sut i fynd i’r afael â’r broblem.
Eisiau gweld “Cymru ar y blaen”
Mae hefyd yn galw am sefydlu Cynllun Gweithredu ar Ddiogelwch Ar-lein a fyddai’n gallu golygu bod “Cymru ar y blaen” ymhlith gwledydd Prydain yn y frwydr yn erbyn bwlio seibr, secstio ac achosion o fagu perthnasau amhriodol â phlant ar-lein.
Mae’r elusen wedi croesawu’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, sy’n anelu at gryfhau rheolau ynghylch camdriniaeth plant ac a fydd yn dod i rym ar 6 Ebrill ond dywedodd fod angen gwneud mwy.
“Gallwn ei ymladd (cam-drin ar y we), ac rwy’n gobeithio y bydd pob ymgeisydd y Cynulliad yn cefnogi ein brwydr dros blentyndod mwy diogel i’n plant,” meddai Des Mannion.