Mae strategaeth a fydd yn “sicrhau bod iaith yn elfen greiddiol o ofal iechyd” yng Nghymru wedi cael ei lansio heddiw.
Mae’r fframwaith yn ychwanegol i strategaeth ‘Mwy na Geiriau’ Llywodraeth Cymru yn 2012, oedd a’r nod o gryfhau gwasanaethau Cymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Bydd yn canolbwyntio ar gasglu tystiolaeth “systematig” a nodi’r lleoedd hynny sydd angen eu gwella.
Mae’r strategaeth newydd hefyd yn nodi’r angen i gynllunio gweithlu yn well o fewn y gwasanaeth iechyd i sicrhau bod pobol yn gallu cael gwasanaeth dwyieithog bob amser.
‘Angen denu mwy o fyfyrwyr’
Ac mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi dweud bod angen denu mwy o fyfyrwyr i astudio pynciau iechyd yn y Gymraeg hefyd er mwyn cyflawni hyn.
Dywedodd Dr Dafydd Trystan, cofrestrydd y Coleg, fod y gwaith yn “gam mawr ymlaen” i sicrhau gweithlu dwyieithog i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
“Mae mwy o fyfyrwyr nag erioed o’r blaen yn astudio rhan o’u cyrsiau iechyd trwy gyfrwng y Gymraeg, ond mae angen gwneud mwy i ddenu myfyrwyr i’r maes iechyd,” meddai.
‘Dechrau’n lleol’
Un o’r ffyrdd o ddenu myfyrwyr Cymraeg i weithio ym meysydd iechyd yw “dechrau’n lleol”, meddai Rhian Huws Williams, prif weithredwr Cyngor Gofal Cymru wrth golwg360.
Dywedodd ei bod hi’n bwysig bod byrddau iechyd, ysbytai ac ysgolion yn gweithio gyda’i gilydd fel bod y gwasanaeth yn “adeiladu perthynas efo’r ysgolion mor gynnar â phosib.”
Bydd hyn, meddai, yn golygu bod “pobol ifanc yn gallu gweld bod y Gymraeg yn iaith sy’n cael ei pharchu yn y man gwaith, dim yn iaith ysgol, ond yn iaith werthfawr yn y man gwaith.”
‘Her’
Dywedodd fod cynllunio gweithlu gwasanaethau iechyd a gofal am fod yn “her” ac mai “cyfrifoldeb” y gwasanaethau hynny fydd gwneud hynny a nodi faint o sgiliau Cymraeg fydd eu hangen ac yn y blaen.
“Mae ‘na lot o bethau wedi gwella ac wedi newid dros y blynyddoedd, mae ‘na lot mwy o drafod am bwysigrwydd y Gymraeg a bod y Gymraeg yn rhywbeth pwysig i gleifion,” meddai.
Dywedodd mai’r her fwyaf yw sicrhau bod “arfer da” yn cael ei dilyn dros Gymru gyfan ac nid mewn “pocedi bach.”
“Mae gwneud y pethau ymarferol, bach o ran arwyddion, cefnogi pobol yn y gwaith i ddefnyddio’r Gymraeg a chreu awyrgylch Gymraeg, yn waith sydd ar y gweill ac yn para.”