Difrod i'r peiriant ar yr Wyddfa
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi mynegi eu “siom” wedi i beiriant cloddio gael ei ddifrodi ar un o lwybrau’r Wyddfa dros y penwythnos.

Dywedodd Mair Huws, Pennaeth Gwasanaeth Wardeinio’r Parc: “Mae ’na werth miloedd o bunnoedd o ddifrod dianghenraid wedi ei wneud i beiriant yr ydan ni’n llwyr ddibynnol arno i gyflawni’n gwaith.”

Mae Heddlu’r Gogledd yn parhau i apelio am wybodaeth ynglŷn â’r difrod a wnaed i’r peiriant ar lwybr Llanberis rhwng 3 a 6 brynhawn dydd Sadwrn, Mawrth 19.

Esboniodd Mair Huws fod “pob ffenest” o’r peiriant wedi malu gan ychwanegu “rydan ni’n sicr o golli wythnos o waith ar lwybrau’r Wyddfa a ninnau’n paratoi at gyfnod prysur y Pasg a’r haf.”

Dywedodd y bydd costau i gludo’r peiriant i lawr o’r “lleoliad anhygyrch” er mwyn ei drwsio, “heb sôn am gael peiriant arall yn ei le fydd yn ein caniatáu ni i barhau â’r gwaith yn y cyfamser.

“Roedd hi’n ddiwrnod braf ddydd Sadwrn ac roedd llwybrau’r Wyddfa yn weddol brysur.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod RC16040417.