Twnnel Hafren Llun: Network Rail
Bydd Twnnel Hafren sy’n cysylltu de Cymru a Lloegr yn cau am chwe wythnos o fis Medi ymlaen.

Mae hyn yn rhan o gynllun trydaneiddio’r rheilffyrdd gwerth £40 biliwn gan Network Rail i ddarparu rheilffyrdd ‘mwy, gwell a dibynadwy’, gyda’r llinell rhwng Abertawe a Llundain yn rhan o hynny.

Bydd y twnnel ynghau rhwng Medi 12 a Hydref 21, gyda threnau’n cael eu dargyfeirio neu wasanaethau bysiau’n cael eu cynnal.

‘Manteision tymor hir’

Bydd y trenau i Lundain yn cael eu dargyfeirio drwy Gaerloyw yn ystod y cyfnod, gan ychwanegu 35 munud at hyd y daith.

“Tra bo’r prosiect chwe wythnos yn mynd i amharu yn y tymor byr, bydd manteision hirdymor  sylweddol o drydaneiddio’r rheilffordd,” meddai Paul McMahon, cyfarwyddwr rheoli llinellau Network Rail Cymru.

Esboniodd y bydd yn “hybu twf economaidd mewn trefi a dinasoedd ar draws de Cymru oherwydd cysylltiadau gwell â Llundain.

“Os na fyddem yn cau am chwe wythnos, byddai’n cymryd hyd at bum mlynedd i beirianwyr gwblhau’r diweddariad gan oedi’r trenau trydan tan 2021.”

‘Teithwyr cyson’

“Rydym eisoes wedi cynnal trafodaethau gyda deiliad tocynnau tymor a theithwyr cyson eraill i’w hysbysu am y gwaith hollbwysig o foderneiddio’r rheilffordd rhwng de Cymru a Llundain,” meddai Rob Mullen ar ran Great Western Railway sy’n cynnal gwasanaethau trenau ar hyd y rheilffordd.

“Bydd trydaneiddio’r llinell yn golygu y gallwn ddarparu gwasanaethau’n fwy cyson, mwy o seddau a lleihau’r amser teithio o ugain munud rhwng Llundain ac Abertawe.”