Mae dau gerbyd wedi bod mewn gwrthdrawiad ar yr A470 rhwng Aberhonddu a Felinfach.

Cafodd y ffordd ei chau toc wedi 11 fore Sul.

Dydy hi ddim yn glir a gafodd unrhyw un ei anafu yn y digwyddiad, ond mae ymchwiliad ar y gweill.