Castell Caerdydd ymhlith y lleoliadau oedd yn cymryd rhan yn Awr Ddaear Cymru
Mae pennaeth WWF Cymru wedi canmol ymdrechion y Cymry yn ystod yr Awr Ddaear, pan gafodd goleuadau eu diffodd ar hyd a lled y wlad nos Sadwrn.
Nos Sadwrn, cafodd goleuadau eu diffodd am awr ar draws y byd er mwyn tynnu sylw at y blaned a gwarchod yr amgylchedd.
Dechreuodd yr Awr Ddaear yng Nghymru am 8.30yh.
Dywedodd pennaeth WWF Cymru, Anne Meikle: “Awr Ddaear y WWF yng Nghymru eleni oedd y fwyaf a’r gorau eto.
“Rydym wrth ein bodd o fod wedi cael cefnogaeth cynifer o bobol, ysgolion, lleoliadau, sefydliadau, cwmnïau ac enwogion ledled Cymru.
“Roedd eu neges o gariad at ein blaned – a’r cymunedau, cynefinoedd a bywyd gwyllt sy’n ddibynnol arni – wedi atseinio’n wych.”
Cefnogaeth eang
Roedd nifer o gestyll, caeau chwaraeon, y Llyfrgell Genedlaethol, canolfan Pontio a Chanolfan y Mileniwm ymhlith y rhai oedd wedi diffodd eu goleuadau ar gyfer yr achlysur.
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Canolfan y Mileniwm, Mathew Milsom: “Gall gwneud gwahaniaeth bach gael effaith bositif anferth a dyna pam fod Canolfan Mileniwm Cymru wedi ymrwymo i gefnogi’r digwyddiad byd-eang sylweddol hwn.”
Gwnaeth pob un o awdurdodau lleol Cymru gefnogi’r Awr Ddaear, a chafodd sesiynau ymwybyddiaeth eu cynnal mewn sawl Cyngor Sir.