Jordan Williams
Mae chwaraewr canol cae Lerpwl, Jordan Williams, wedi dileu ei gyfrif Twitter ar ôl cael ei gyhuddo o bostio neges oedd yn gwneud hwyl am ben damwain awyr Munich.

Cafodd y neges ei phostio neithiwr, wrth i Lerpwl drechu Manchester United yng Nghynghrair Ewropa.

Roedd awyrgylch cas wedi bod rhwng y ddwy set o gefnogwyr cyn ac ar ôl y gêm, gyda rhai o ddilynwyr Man United yn gwawdio trasiedi Hillsborough yn 1989 pan gollodd 96 o gefnogwyr Lerpwl eu bywydau.

Ond fe gafodd Williams ei gyhuddo o wneud sylw sarhaus ei hun, ar ôl postio neges wrth ganmol buddugoliaeth Lerpwl gydag emojis yn dangos dwylo yn clapio, ac awyren.

Cafodd hynny ei ddehongli gan lawer o gefnogwyr fel cyfeiriad at ddamwain Munich yn 1958, pan gollodd 11 o staff a chwaraewyr Man United eu bywydau.

‘Wedi cael fy hacio’

Fe ddiflannodd y neges drydar yn sydyn, ac fe bostiodd Jordan Williams neges arall yn dweud bod rhywun wedi torri mewn i’w gyfrif Twitter.

Ond yn fuan wedi hynny fe gafodd cyfrif y chwaraewr 20 oed, sydd ar fenthyg yn Swindon ar hyn o bryd, ei ddileu.

Yn ôl papur newydd y Daily Mirror mae clwb pêl-droed Lerpwl eisoes yn ymchwilio i’r neges gan yr amddiffynnwr, gafodd ei eni a’i fagu ym Mangor.

Mae Jordan Williams, sydd yn siarad Cymraeg, eisoes wedi chwarae sawl gwaith dros dîm dan-21 Cymru a llynedd fe gafodd ei alw i garfan y tîm cyntaf, er nad yw wedi ennill ei gap cyntaf eto.

Ar hyn o bryd mae cyn-ddisgybl Ysgol y Garnedd allan ag anaf i’w ben-glin, gan obeithio dychwelyd cyn diwedd y tymor gydag Ewro 2016 ar y gorwel.