Heddiw, fe fydd Beibl Mari Jones yn dychwelyd i’r Bala am dridiau yn unig – dros 215 o flynyddoedd wedi i’r llyfr mawr adael yr ardal.

Gobaith y trefnwyr yw y bydd yr arddangosfa yn gyfle unigryw i bawb weld y Beibl gwreiddiol.

Roedd Mari Jones yn 15 mlwydd oed pan gerddodd yn droednoeth o Lanfihangel y Pennant i’r Bala – tua 26 milltir – i brynu Beibl gan y Parchedig Thomas Charles yn 1800.

Fe wnaeth hanes ei thaith ysbrydoli Thomas Charles i sefydlu cymdeithas a fyddai’n darparu Beiblau am ddim i bobl ym Mhrydain a thu hwnt yn eu hieithoedd frodorol.

Mae’r Beibl yn cael ei gadw yn archifau Cymdeithas y Beibl ym Mhrifysgol Caergrawnt. Ceidwad y Beibl, Dr Onesimus Ngundu, fydd yn dod â’r Beibl i’r Bala.

Mae pobl o bob cwr o’r byd yn ymweld â Chaergrawnt i weld Beiblau yn eu hiaith eu hunain ac mae Dr Ngundu yn aml yn tynnu sylw at Feibl Mari Jones trwy bwysleisio na fyddai ganddynt y Beibl yn eu hiaith frodorol heb y Beibl yn unigryw hwn.

Bydd y Beibl yn cael ei arddangos ym Myd Mari Jones ar ddydd Sadwrn 19 Mawrth rhwng 10:00-4:00 ac mae croeso i bawb fynychu gwasanaeth yng Nghapel Tegid, Y Bala, am 7 o’r gloch nos Sadwrn.