Y datblygiad yn bleidlais o hyder yng Nghymru, meddai Alun Cairns
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi cynlluniau i greu canolfan wyddoniaeth data o’r radd flaenaf yng Nghymru.

Wedi’i leoli yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol yng Nghasnewydd, bydd y Campws Gwyddoniaeth Data newydd a Chanolfan Ragoriaeth Economeg yn creu o leiaf 30 o swyddi medrus gan adeiladu ar y sgiliau sydd gan y gweithlu yno’n barod.

Gobaith y Llywodraeth yw y bydd y ganolfan newydd yn golygu fod gwledydd Prydain ar flaen y gad pan mae hi’n dod i ddadansoddi data ac ystadegau.

Cafodd £10 miliwn o’r arian i greu’r ganolfan ei gyhoeddi yn y Gyllideb yn gynharach yr wythnos hon.

“Pleidlais o hyder”

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns: “Mae’r cyhoeddiad hwn yn bleidlais o hyder yng Nghasnewydd ac mewn arbenigedd Cymreig.

“Mae Cymru’n datblygu enw da yn rhyngwladol fel canolfan ar gyfer arloesi mewn technoleg, a bydd y ganolfan wyddoniaeth data newydd yn ychwanegiad gwych i hynny.”