Llys y Goron, Yr Wyddgrug
Mae dyn a gafwyd yn euog o greulondeb mewn cartref gofal yng Ngogledd Cymru wedi ei ddedfrydu i wyth mis o garchar wedi ei ohirio am flwyddyn.

Yn Llys y Goron yr Wyddgrug ym mis Chwefror, cafwyd Keith Evans o ardal Rhosrobin, Wrecsam, yn euog o achosi creulondeb i fachgen a oedd tua 13 neu 14 oed yng nghartref gofal Bryn Alyn, Wrecsam.

Cafodd Keith Evans, 71, hefyd orchymyn i dalu dirwy o £500 a £500 iawndal i’r ddioddefwr.

Cafodd ei arestio fel rhan o Ymchwiliad Pallial, sy’n ymchwiliad gan yr Asiantaeth Trosedd Cenedlaethol (NCA) i achosion o gam-drin hanesyddol mewn cartrefi gofal yng ngogledd Cymru.

Cafwyd Keith Evans yn ddieuog o chwe chyhuddiad arall o greulondeb.

Saith yn euog 

Mae saith dyn wedi cael eu dyfarnu’n euog a’i ddedfrydu am un neu fwy o droseddau yn dilyn ymchwiliadau gan Ymgyrch Pallial.

Mae’r rhain yn cynnwys perchennog cartref gofal Bryn Alyn, John Allen, a ddedfrydwyd i garchar am oes a phum aelod o grŵp o bedoffiliaid a gafodd ei dedfrydu i gyfanswm o 43 mlynedd yn y carchar.

Mae Ymchwiliad Pallial yn parhau.