Mae corff wedi’i ganfod ar waelod clogwyni ger Aberdaugleddau yn Sir Benfro, yn dilyn ymgyrch i chwilio am fachgen yn ei arddegau oedd ar goll.

Fe ddaeth cadarnhad gan Wylwyr y Glannau a’r heddlu fod y corff wedi’i ganfod yn Dale yn ystod oriau mân fore Gwener.

Dyw’r corff ddim eto wedi’i adnabod yn ffurfiol, ond mae aelodau o deulu’r bachgen oedd ar goll wedi cael gwybod am y darganfyddiad gan Heddlu Dyfed-Powys.