Yr adroddiad
Mae problemau tros gyfrifon mwy na 100 o gynghorau cymuned a thref Cymru, yn ôl yr Archwilydd Cenedlaethol.

Yn ôl ei adroddiad diweddara’, fe fu cynnydd o 3% yn y problemau y llynedd – yn groes i welliannau yn y blynyddoedd cynt.

  • Y ffigwr diweddara’ yw 113 a bron hanner y rheiny’n rhai newydd ar y rhestr.
  • Yn ôl yr adroddiad, mae 95 o gynghorau wedi cael eu beirniadu am ddwy neu ragor o’r pedair blyned ddiwetha’.
  • Mae’n golygu bod rhwng 5% a 10% o gynghorau’n cael eu beirniadu gan yr Archiwlydd bob blwyddyn.
  • Mae hefyd yn dangos bod pedwar o bob deg o’r cynghorau wedi cael problemau gyda’u cyfrifon ers 2011-2.

Mae rhai o’r cynghorau yn gwario degau o filoedd o bunnoedd bob blwyddyn.

‘Annerbyniol’

“Mae nifer o gynghorau sydd wedi cyflwyno eu cyfrifon yn brydlon ac i safon yn flaenorol wedi methu cynnal eu safonau blaenorol ac mae’n annerbyniol bod cymaint o gynghorau wedi caniatáu i safonau ostwng,” meddai’r Archwilydd Huw V Thomas.

Y prif broblemau yw methu â chyflwyno’r adroddiadau ariannol mewn pryd a methu ag asesu a rheoli risgiau, gan gynnwys rhai ariannol.