Bryn Estyn - canolbwynt y cam-drin
Mae disgwyl i adroddiad gael ei gyhoeddi  heddiw ar achosion o gam-drin hanesyddol yn erbyn plant mewn cartrefi gofal rhwng yng ngogledd Cymru rhwng yr 1970au a’r 1990au.

Fe fydd yn dyfarnu a oedd Ymchwiliad cynharach Waterhouse, a gafodd ei sefydlu yn 2000, wedi methu ag ymchwilio i honiadau rhai plant.

Roedd yr ymchwiliad hwnnw yn canolbwyntio ar fwy na 100 o honiadau o gam-drin rhwng 1974 ac 1996.

Dechreuodd y Fonesig Ustus Macur, sy’n gyfrifol am yr adroddiad newydd, gymryd tystiolaeth yn 2013, i honiadau o gam-drin hanesyddol mewn cartrefi gofal yn hen siroedd Gwynedd a Chlwyd.

Mae disgwyl i Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, wneud datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw.