Cheryl James
Mae cyn-arolygydd yr heddlu wedi ymddiheuro i deulu milwr ifanc o Langollen am y diffyg ymchwilio i’w marwolaeth.
Cafodd corff Cheryl James, 18, ei ddarganfod gyda bwled yn ei phen ym mis Tachwedd, 1995 ym marics Deepcut, yn Surrey lle bu farw tri milwr arall dros gyfnod o saith mlynedd.
Fe wnaeth Heddlu Surrey benderfynu o fewn dwy awr “nad oedd amgylchiadau amheus” ynghylch ei marwolaeth, clywodd cwest yn Woking heddiw.
Clywodd y gwrandawiad bod yr Arolygydd ar y pryd, Michael Day wedi cyrraedd y safle am 9:04 y bore a throsglwyddodd yr ymchwiliad i’r crwner a’r fyddin, dwy awr yn ddiweddarach am 11:12, heb chwilio’r corff na’r arf ei hun.
Ymddiheurodd i deulu Cheryl James heddiw gan ddweud: “Pe bai angen i mi wneud y penderfyniad hwnnw eto, byddwn yn sicr wedi gwneud rhywbeth yn wahanol.”
Ychwanegodd nad oedd unrhyw amgylchiadau amheus i’w gweld “yn nhermau ystum y corff a’r pethau o’i gwmpas.”
Dim tystiolaeth olion bysedd
Roedd Alison Foster QC, wrth gynrychioli’r teulu, wedi cyhuddo Michael Day o hoelio ei benderfyniad ar “gyfres o ragdybiaethau”, heb ymchwilio’n iawn.
Nododd nad oedd tystiolaeth olion bysedd wedi cael eu cymryd o’r gwn, na swabiau o ddwylo neu wyneb Cheryl James chwaith.
Dywedodd nad oedd modd i’r heddlu wybod p’un ai Cheryl neu rywun arall a daniodd y gwn.
“Dim rheolaeth”
Yn ôl cyn-heddwas â’r Weinyddiaeth Amddiffyn, doedd yr ardal lle cafwyd hyd i’r corff heb gael ei chau a doedd dim rheolaeth o gwmpas y corff pan gyrhaeddodd y safle.
“Roedd pawb yn cerdded o gwmpas, doedd dim rheolaeth i’w gweld,” meddai Paul Davidson.
Mae’r cwest yn parhau.