Camau'n cynnwys annog plant i chwarae yn yr awyr agored
Mae ymgyrch newydd wedi cael ei lansio heddiw i daclo’r broblem o ordewdra ymhlith plant Cymru.
Mae 1 o bob 4 o blant Cymru yn ordew neu dros bwysau erbyn iddyn nhw gyrraedd yr ysgol a bwriad ymgyrch ‘10 Cam’ Iechyd Cyhoeddus Cymru yw ceisio lleihau’r nifer gymaint â phosib.
Canolbwyntio ar gamau penodol i rieni a gweithwyr iechyd i sicrhau bod plant yn cadw’n iach yw hanfod yr ymgyrch – o feddwl am ddechrau cynllunio teulu, hyd nes bod y plentyn hwnnw’n 5 oed.
Mae’r camau hynny’n cynnwys bwydo o’r fron, chwarae yn yr awyr agored, ffrwythau a llysiau a rheoli amser sgrin i blant.
Taclo’r broblem yn gynnar
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae plant sydd dros bwysau neu sy’n ordew yn yr oedran hwn yn fwy tebygol o fod yn ordew pan fyddan nhw’n eu harddegau neu’n oedolion.
Gall hyn arwain at lu o broblemau iechyd fel asthma, hunan-barch isel a diabetes, ac felly mae taclo’r broblem yn gynnar yn gallu cael effaith sylweddol, yn ôl Cyfarwyddwr Gwella Iechyd, Julie Bishop.
“Rydym yn canolbwyntio ein hymdrechion ar atal. Rydym am i bob plentyn sy’n cael ei eni yng Nghymru gyrraedd ei ben-blwydd yn 5 oed ar bwysau iach,” meddai.
“Mae hyn yn bwysig iawn oherwydd bod cysylltiad clir rhwng bod dros bwysau neu’n ordew pan yn blentyn ac aros felly wrth ddod yn oedolyn a gall hyn arwain at nifer o gymhlethdodau iechyd.”