Protest ar do Arena Motorpoint yng Nghaerdydd Llun: Campaign Against Arms Trade
Mae ymgyrchwyr yn protestio heddiw yn erbyn ffair fasnach arfau sy’n cael ei chynnal yn flynyddol yng Nghaerdydd.

Bwriad y grŵp Stop The Cardiff Arms Fair yw tarfu ar y ffair cymaint â phosib gyda cherddoriaeth, theatr, “myfyrdod yn erbyn y ffair” a gweithredu uniongyrchol.

Dywedodd ymgyrchydd lleol, Lleucu Williams, “nad oes croeso” i’r masnachwyr arfau yng Nghymru.

Mae’r ffair gan DPRTE (arddangosfa Caffael, Ymchwil, Technoleg ac Allforio nwyddau Amddiffyn), yn cael ei chynnal yn Arena Motorpoint yng Nghaerdydd.

Yn ôl y cwmni, dyma ddigwyddiad mwyaf y DU i fasnachu arfau, lle fydd masnachwyr o ledled Prydain a’r byd yn mynd iddo.

Ers 2014, mae’r digwyddiad wedi bod yng Nghaerdydd, ar ôl cael ei symud o Fryste yn dilyn protestiadau.

Bydd cwmnïau fel BAE Systems, Lockheed Martin a Boeing yn bresennol, cwmnïau sydd wedi gwerthu arfau i bobol sy’n cam-drin hawliau dynol, yn ôl y grŵp sy’n ymgyrchu yn eu herbyn.


Y brotest yng Nghaerdydd
‘Dim croeso’

“Mae’n warthus bod y Motorpoint Arena yn croesawu masnachwyr i fasnachu arfau sy’n lladd yng nghanol Caerdydd,” meddai Lleucu Williams, sy’n rhan o grŵp Stop the Cardiff Arms Fair.

“Roedd ymgyrchwyr ym Mryste wedi gorfodi’r ffair i adael eu dinas – ac rydym wedi penderfynu dangos i’r masnachwyr arfau nad oes croeso iddyn nhw yng Nghymru chwaith.

Doedd DPRTE ddim am wneud sylw ar y mater.