Mae economi Cymru’n “mynd o nerth i nerth”, yn ôl y Prif Weinidog Carwyn Jones.

Daw ei sylwadau wrth i’r ffigurau diweddaraf ddangos bod 79,000 o bobol yng Nghymru’n ddi-waith, sy’n ostyngiad o 8,000 (5.2%) yn ystod y tri mis diwethaf.

Mae’r ffigurau yng ngweddill y DU hefyd yn dangos bod mwy o bobol mewn gwaith nag erioed o’r blaen.

Roedd y ffigurau diweithdra 28,000 yn is yn y tri mis hyd at fis Ionawr, y chweched gostyngiad yn olynol, a’r ffigwr diweithdra diweddaraf yn 1.68 miliwn.

Roedd 18,000 yn llai o bobol wedi hawlio budd-dal yn ystod y tri mis dan sylw, sy’n golygu mai’r ffigwr oedd 716,700, y ffigwr isaf ers 1975.

Roedd 116,000 yn fwy o bobol mewn gwaith, a’r lefel bellach wedi cyrraedd 31.4 miliwn.

Roedd cynnydd o 10,000 yn nifer y swyddi oedd ar gael yn ystod y chwarter, gyda 768,000 angen eu llenwi, ac roedd enillion i fyny 2.1% ar gyfartaledd yn ystod y flwyddyn, a 0.2% yn ystod y chwarter.

Cododd nifer y bobol mewn gwaith yn y sector cyhoeddus i 5.3 miliwn, sy’n gynnydd o 3,000, ond roedd nifer y bobol mewn gwaith mewn llywodraeth leol i lawr i’w lefel isaf o 2.2 miliwn.

Fe fu cynnydd o fwy na hanner miliwn yn nifer y bobol sy’n cael eu cyflogi gan gwmnïau preifat i 26 miliwn.

Roedd cynnydd hefyd o 177,000 yn nifer y bobol sy’n gweithio’n rhan-amser i 8.5 miliwn.

Roedd gostyngiad o 40,000 yn nifer y bobol sy’n cael eu hystyried yn economaidd anweithgar – a’r ffigwr hwnnw bellach yn agos i 8.9 miliwn.

‘Mynd o nerth i nerth’

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: “Mae’r ffigurau heddiw’n dangos gostyngiad sylweddol yng nghyfradd diweithdra Cymru a chyfradd cyflogaeth ar ei lefel uchaf erioed.

“Mae’r farchnad waith yng Nghymru’n parhau i berfformio’n well na’r DU gyfan ac mae economi Cymru’n mynd o nerth i nerth.

“Fis diwethaf, fe wnes i groesawu Aston Martin i Gymru. Dyma gwmni o safon fyd-eang a gafodd ei ddenu gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru yn wyneb cystadleuaeth ffyrnig gan fwy nag 20 o leoliadau posib eraill ar draws y byd.

“Byddan nhw’n creu mwy na 750 o swyddi sy’n gofyn am sgiliau o’r radd flaenaf yn Sain Tathan, gyda 100 yn rhagor o swyddi’n cael eu creu ar draws y gadwyn gyflenwi a busnesau lleol o ganlyniad uniongyrchol i’r buddsoddiad.

“Yn y cyfamser, fe fydd estyniad gan MotoNovo Finance, a gafodd ei gyhoeddi ddoe ac a gafodd ei ddiogelu drwy gefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn creu bron i 600 o swyddi newydd.

“Bydd y buddsoddiad yn gweld yr yswirydd, dan berchnogaeth FirstRand Bank o Dde Affrica, yn ehangu ac yn ymestyn allan i farchnadoedd newydd ac adleoli ei bencadlys i Barth Menter Canol Caerdydd, gan godi nifer y swyddi i fwy na 1000 erbyn 2021.”

‘Problemau dyfnion’

Wrth ymateb i’r ffigyrau diweithdra diweddaraf, dywedodd llefarydd economi Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth:

“Rydym yn croesawu’r cwymp mewn diweithdra, ond mae hyn yn fater o ansawdd yn hytrach na nifer y swyddi yng Nghymru.

“Mae’r cyflog cyfartalog yng Nghymru £100 yr wythnos yn is na chyfartaledd y DG, ac y mae hyn yn arwydd o broblemau dyfnion yn ein heconomi.

“Mae Plaid Cymru eisiau delio â’r broblem hon yn syth. Byddwn yn dwyn ymlaen fuddsoddiad mawr mewn trafnidiaeth, ynni a seilwaith gwyrdd ac yn sefydlu ADC newydd gyda’r ddyletswydd o werthu Cymru i’r byd, a denu buddsoddiad yma o bob cwr o’r byd.

“Ac fe fyddwn yn gwario arian cyhoeddus yn ddoeth, gan ddyfarnu mwy o gontractau i gwmnïau Cymreig er mwyn cefnogi ein heconomi ein hunain a chreu swyddi yma yng Nghymru.”