Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau bod ymchwiliad yn cael ei gynnal mewn eglwys hynafol yng Nghwm Tawe wedi i esgyrn gael eu darganfod yno.

Cafodd yr heddlu eu galw i Eglwys Llangiwg, Rhydyfro ddydd Llun, Mawrth 7 wedi i esgyrn gael eu darganfod wrth i waith adnewyddu gael ei wneud ar yr adeilad hanesyddol.

Mae archwiliad fforensig yn cael ei gynnal ar yr esgyrn ar hyn o bryd.