Y Preifat Cheryl James
Mae cyn swyddog heddlu’r fyddin wedi ei gyhuddo o geisio “gwneud ei hun edrych yn fwy effeithiol” yn ei gofnod o farwolaeth y Preifat Cheryl James o Langollen ym Marics Deepcut yn 1995.

Yn llys y Crwner yn Woking heddiw, fe gafodd y cyn-swyddog, Neil Vousden, ei holi ynglŷn ag anghysondebau rhwng ei gofnod ef a thystiolaeth arall am farwolaeth y milwr 18 oed.

Fe gafodd ei gyhuddo o fod yn anghywir wrth honni ei fod wedi gyrru’r Preifat Cheryl James at y lle’r oedd hi fod i weithio, adroddiadau am anwybyddu galwadau ynghyd ag am ba mor hir y cymerodd hi i ddod o hyd i’w chorff.

‘Merch ifanc gyfrifol’

Fe ddywedodd Neil Vousden ei fod wedi dewis Cheryl James i fod ar ddyletswydd gwarchod y fynedfa’r bore hwnnw am ei bod “yn ferch ifanc gyfrifol iawn” ac nad oedd hi wedi gwirfoddoli ar gyfer y rôl.

Fe ddywedodd nad oedd yn ymwybodol o orchmynion o fewn y llu ar y pryd na ddylai milwyr benywaidd fod ar ddyletswydd gwarchod ar eu pennau eu hunain.

Fe esboniodd ei fod wedi gyrru Cheryl James at y giât, wedi gwneud gwiriadau radio a’i gadael yno tua 6.55 y bore.

Fe ddychwelodd tua 8.20 y bore o fewn “ychydig o funudau” ar ôl adroddiadau nad oedd neb wrth y giât.

‘Cwestiynu’

Fe gyhuddodd Alison Foster QC, sy’n amddiffyn teulu Cheryl James, y cyn-swyddog o roi gwybodaeth anwir er mwyn gwneud ei hun “edrych yn fwy effeithiol.”

Fe ddywedodd bod tystion wedi dweud bod Cheryl James wedi cerdded at y giât yn hytrach na chael ei gyrru yno, fel yr oedd Neil Vousden yn honni.

Fe wnaeth hefyd gwestiynu pam fod cofnod o’i dyletswydd olaf ar goll, ynghyd ag a gafodd galwadau i’r ystafell warchod eu hanwybyddu ai peidio.

Fe wadodd Neil Vousden y cyhuddiadau gan fynnu ei fod yn dweud y gwir.

‘Dim pwls’

Roedd Tyron Bancroft gyda Neil Vousden pan ddaethon nhw o hyd i gorff Cheryl James am y tro cyntaf.

Fe esboniodd fod Neil Vousden wedi gofyn am ei gymorth am fod “y gwarchodwr ar goll.”

“Fe es i i’r goedwig a gallwn weld siaced oedd yn edrych fel petai’n gorwedd ar dwmpath,” meddai Tyron Bancroft wrth y llys.

“Gallwn weld wedyn mai corff oedd yno. Fes es at gefn y corff a symud y cwfl i edrych am bwls, ond doedd dim pwls.”

Fe ddywedodd ei fod wedi gweld radio Cheryl James “yn gorwedd ar stepen” y portacabin wrth y giât.

‘Cwest yn parhau’

Fe esboniodd y parafeddyg, Nigel Roberts, ei fod wedi derbyn galwad tua 8.50 y bore hwnnw’n adrodd bod “saethu, ymholiad i hunanladdiad” yng ngwersyll y fyddin yn Surrey.

“Byddai’n wybodaeth oedd wedi ei rhoi inni, nid honiad a wnaed gennym ni ar y pryd,” ychwanegodd.

Fe ddywedodd ei fod wedi dod o hyd i’r ferch yn “gorwedd yn llwyr ar ei hochor dde gyda’i phengliniau wedi eu tynnu i fyny a’i dwylo allan o’i blaen.”

Cafodd corff y ferch ei ddarganfod â bwled yn ei phen, ac roedd yn un o bedwar milwr ifanc i farw yn y barics mewn cyfnod o saith mlynedd.

Fe fydd y cwest yn parhau ddydd Mercher.