Mae’r cam cyntaf yn y broses o ddatblygu uned fodern newydd i ofalu am fabanod sâl iawn a rhai sy’n cael eu geni’n rhy gynnar,  yng ngogledd Cymru wedi cael eu cymeradwyo.

Os caiff y cynllun llawn sêl bendith, bydd disgwyl i’r uned ar gyfer y mamau a babanod ledled y gogledd agor yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan erbyn 2018.

Yn ôl y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, bydd yr uned yn “darparu’r safonau gorau posibl o ofal” ar draws y gogledd.

Mae’r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant eisoes wedi argymell cynllunio uned gofal dwys i fabanod newydd-anedig mewn un safle canolog yn y gogledd.

£500,000 i ddatblygu cynllun

Fel rhan o’r cais, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi sicrhau £500,000 gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu achos busnes yr uned.

Daw hyn ar ben y £1.4 miliwn sydd eisoes wedi cael ei rhoi i wella’r seilwaith trydanol yn yr uned bresennol yn yr ysbyty ac i dalu am grud cynnal symudol arall ar gyfer trosglwyddo’r babanod difrifol wael.

“Rydyn ni wedi cymryd cam pellach a fydd yn helpu’r bwrdd iechyd i ddatblygu’r achos busnes terfynol ar gyfer y Ganolfan Is-ranbarthol newydd ar gyfer Gofal Dwys i’r Newydd-anedig a fydd yn darparu’r safonau gorau posibl o ofal i famau a babanod ar draws y gogledd,” meddai’r Gweinidog Iechyd  Mark Drakeford.

“Dw i’n edrych ymlaen at weld cynnydd y prosiect hwn a’r uned newydd yn agor.”

Mae bwrdd prosiect arbennig wedi cael ei sefydlu i arwain y cynllun, a grŵp dylunio newyddenedigol, sy’n cynnwys arweinwyr clinigol ar gyfer gofal i fabanod newydd-anedig ac atal heintiau, cynrychiolwyr rhieni ac amrywiaeth o staff newyddenedigol.