Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun newydd ar gyfer gwasanaethau wroleg y Gwasanaeth Iechyd, a fydd yn “trawsnewid” y ffordd mae pobol yn cael eu trin.

Nod y cynllun cenedlaethol yw gwella profiad cleifion a darparu gwasanaethau cynaliadwy, drwy geisio trin y rhai sydd a’r angen mwyaf yn gyntaf a chynnal ymyriadau “angenrheidiol” yn unig.

Bydd y Cynllun Gweithredu Cenedlaethol hefyd yn canolbwyntio ar lai o feysydd, gan edrych ar effaith a chanlyniadau yn eu lle.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething, fod angen “gweithredu ar frys” er mwyn cynllunio gwasanaethau iechyd a gofal yn well yng Nghymru.

Mae’r term wroleg yn cynnwys clefydau’r arennau, y bledren, y brostad a chanser, yn ogystal ag anallu rhywiol ac anffrwythlondeb.

53,000 o gleifion newydd bob blwyddyn

Yng Nghymru, mae tua 53,000 o gleifion allanol newydd bob blwyddyn ym maes wroleg a 74% o’r rhain sy’n cael triniaeth.

Mae mwy na 4,000 o bobol yng Nghymru hefyd yn cael diagnosis o ganser wrolegol bob blwyddyn.

Yn ôl y cynllun, mae hi bellach yn ofynnol bod byrddau iechyd yn deall a mesur y galw, a’u capasiti wrth ddelio â’r maes. Bydd bellach modd o fesur profiad y claf hefyd sy’n cael gwasanaeth wroleg yng Nghymru.

O dan y prif newidiadau, bydd pobol sydd ddim angen triniaeth brys yn cael eu cyfeirio at wasanaethau yn y gymuned a mesurau i atal clefydau cyn iddyn nhw gael eu cyfeirio at y gwasanaeth iechyd.

Bydd ysmygwyr a phobol sydd â BMI o 35 neu’n uwch yn cael eu hatgyfeirio i wasanaeth lleol i’w helpu i roi’r gorau i smygu neu reoli eu pwysau fel rhan o’r driniaeth.

“Angen gweithredu ar frys”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd, bod mwy o alw ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru heddiw nag erioed o’r blaen.

“Diolch i ddatblygiadau ym maes ymchwil, ynghyd â chynnydd mewn technoleg, mae pobl yn byw yn hirach ac maen nhw’n goroesi clefydau a fyddai wedi eu lladd yn y gorffennol,” meddai.

“O ganlyniad i hyn, mae galw ar y GIG yng Nghymru yn fwy nawr nag ar unrhyw adeg arall yn ei hanes.

“Mae angen gweithredu ar frys i sicrhau ein bod ni’n datblygu gwasanaeth gofal wedi’i gynllunio yng Nghymru sy’n gynaliadwy ac sy’n gallu ymateb i’r galw ychwanegol hwn. Rydyn ni’n gwybod nad yw’r amseroedd aros bob amser cystal ag y gallen nhw fod.

“Nod y cynllun newydd hwn yw trawsnewid gwasanaethau ym maes wroleg yn y GIG yng Nghymru. Bydd yn canolbwyntio ar y bobl sydd â mwyaf eu hangen, gan gynnal y driniaeth briodol leiaf bosib wrth ganolbwyntio ar lai o feysydd â mwy o effaith a chanlyniadau.”